Romans 1:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac vvy yn llawn o bob ancyfiawnder, ffornicrwyð, enwiredd cupyð d ra, drugioni, yn llawn cenvigē, a l’að‐celain, cynen, hocced, dryc‐anwydae, yn hustingwyr,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, anfadrwydd, cybydd-dod, a drygioni; yn orlawn o gynfigen, llofruddiaeth,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, drygwaith, trachwant, drygioni, yn orlawn o genfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, malais,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd‐dod, drygioni; yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg anwydau;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ymddwyn yn anghyfiawn, gwneud pethau drwg, bod yn farus a hunanol, bod yn faleisus, cenfigennu, llofruddio, cecru, twyllo, bod yn sbeitlyd a hel straeon am bobl eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a hwythau yn gyforiog o bob math o anghyfiawnder a drygioni a thrachwant ac anfadwaith. Y maent yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, cynllwyn a malais.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
wedi eu llenwi a phob annghyfiawnder,, anfadrwydd, trachwant, drygioni, yn orlawn o genfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drygduedd; yn hustyngwyr,