Romans 1:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr ei, er eu bot yn adnabot Deddyf Dnw, may pwy rei pynac a wnant gyfryw bethae, eu bot yn deilwng o angae, ac ny d yn vnic bot yn gwneuthu’r y petheu hyn, amyn hefyt cydsynnio a’r ei ’sy yn ei gwnethu r.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai a deddf Dduw yn adnabyddus ganddynt fod y rhai sy’n gwneuthur y fath bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn eu gwneuthur hwynt, eithr cyd-foddlonir hwynt hefyd â’r rhai a’u gwnant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a hwy’n gwybod ordeiniad Duw, bod y sawl sy’n gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, nid yn unig fe’u gwnânt, eithr hefyd cymeradwyant y sawl a’u gwna.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw, fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd yn cydymfodloni â'r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n gwybod yn iawn fod Duw wedi dweud fod pawb sy'n gwneud y pethau yma yn haeddu marw. Ond maen nhw'n dal ati er hynny, ac yn waeth fyth yn annog pobl eraill i wneud yr un fath â nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gorchymyn cyfiawn Duw, fod y sawl sy'n cyflawni'r fath droseddau yn teilyngu marwolaeth, yn gwbl hysbys i'r rhai hyn; ond y maent nid yn unig yn dal i'w gwneud, ond hefyd yn cymeradwyo'r sawl sydd yn eu cyflawni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn gyfryw ag yn gwybod ordeiniad Duw, fod y rhai sydd yn arfer y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn arfer y cyfryw, eithr hefyd yn cydsynio â'r rhai sydd yn eu harfer hwynt.