Romans 1:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a ðeclarwyt yn nerthol y vot yn Vap Duw, erwyð Yspryt sancteidiat gan y cyfodiad iadigaeth o veirw)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a hyspyswyd yn Fab Duw gyda gallu, yn ol yspryd sancteiddrwydd, trwy adgyfodiad y meirw; sef Iesu Grist ein Harglwydd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a benodwyd yn Fab Duw mewn gallu yn ôl ysbryd sancteiddrwydd trwy atgyfodiad meirwon, Iesu Grist ein Harglwydd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy'r atgyfodiad oddi wrth y meirw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond dangosodd yr Ysbryd Glân mewn ffordd rymus ei fod e hefyd yn Fab Duw, pan gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond yn nhrefn sanctaidd yr Ysbryd, cyhoeddwyd ef yn Fab Duw, mawr allu, trwy atgyfodiad o farwolaeth. Dyma Iesu Grist ein Harglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn a ddynodwyd yn Fab Duw mewn gallu yn ol yspryd sancteiddrwydd, trwy Adgyfodiad y meirw; sef Iesu Grist ein Harglwydd,