Romans 1:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ymysc yr ei n ydd yw chwi hefyt yn ’alwedigion Iesu Christ:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ym mysg y rhai yr ydych chwi hefyd, galwedig gan Iesu Grist;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y rhai yr ydych chwithau yn eu plith yn alwedigion Iesu Grist:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymysg y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dych chi'n rhai o'r bobl hynny — wedi cael eich galw i berthynas â Iesu y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymhlith y rhain yr ydych chwithau, yn rhai wedi eich galw ac yn eiddo i Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ym mhlith y rhai yr ydych chwithau hefyd yn alwedigion Iesu Grist: