Romans 1:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
At och oll yr ei ’sydd yn Ruuein caredigion gan D d uw, galwedig ion y vot yn Sainct æ: Rat vo y’wch a’ thangneddyf y gan Dduw ein Tat, a’ chan yr Arglwydd Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
at bawb sydd yn Rhufain, anwyl gan Dduw, galwedigion i fod yn saint; Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
at bawb sydd yn Rhufain yn annwyl gan Dduw, a alwyd i fod yn saint. Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
At bawb sydd yn Rhufain, yn annwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n ysgrifennu atoch chi i gyd yn Rhufain. Chi sydd wedi eich caru gan Dduw a'ch gwneud yn bobl arbennig iddo. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn cyfarch pawb yn Rhufain sydd yn annwyl gan Dduw, a thrwy ei alwad ef yn saint. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
At bawb o rai anwyl Duw yn Rhufain, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist.