Romans 1:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys bot Duw yn test ymy (yr hwn wyf yn ei wasanaethu yn vy yspryt yn Euangel y Vap ef) vy‐bot yn ddibait yn gwneuthur coffa durieth am danoch,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys fy nhyst yw Duw, yr Hwn yr wyf yn Ei wasanaethu yn fy yspryd yn Efengyl Ei Fab, mor ddibaid yr wyf yn gwneuthur coffa o honoch, bob amser yn fy ngweddïau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid fy nhyst yw Duw, yr hwn a wasanaethaf â’m hysbryd yn efengyl ei Fab, mor ddibaid y coffâf chwi bob amser yn fy ngweddïau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddi‐baid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wrthi'n gweithio fy ngorau glas dros Dduw trwy gyhoeddi'r newyddion da am ei Fab, ac mae e'n gwybod mod i'n gweddïo drosoch chi o hyd ac o hyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Duw, yr un y mae fy ysbryd yn ei wasanaethu yn Efengyl ei Fab, yn dyst i mi mor ddi-baid y byddaf bob amser yn eich galw i gof yn fy ngweddau
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys fy nhyst yw Duw, yr hwn wyf yn ei wasanaethu yn fy yspryd yn efengyl ei Fab ef, mor ddibaid yr wyf yn gwneuthur coffa o honoch bob amser yn fy ngweddiau,