Romans 10:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
And pavodd y galwant ar yr hwn, ny chredasant ynddaw? a’ pha vodd y credant yn yr hwn, ny chlywsant ywrthaw? a’ pha vodd y clywant eb precethwr?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa fodd, ynte, y galwent ar yr Hwn na chredasant ynddo? A pha fodd y credent yn yr Hwn na chlywsant? A pha fodd y clywent heb un yn cyhoeddi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa fodd gan hynny y galwant ar un na chredasant ynddo? A pha fodd y credant mewn un nas clywsant? A pha fodd y clywant heb neb yn cyhoeddi?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a pha fodd y clywant, heb bregethwr?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn, sut mae disgwyl i bobl alw arno os ydyn nhw ddim wedi credu ynddo? A sut maen nhw'n mynd i gredu ynddo heb fod wedi clywed amdano? Sut maen nhw'n mynd i glywed os ydy rhywun ddim yn dweud wrthyn nhw?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa fodd, ynte, y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant? a pha fodd y clywant heb bregethwr?