Romans 10:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ pha vodd y precethant, oddieithyr eu d anvon? megis y mae yn escrivenedic, Mor brydverth yw traed yr ei sy yn evangelu tangneddyf, ac yn euangelu petheu dayonus?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A pha fodd y cyhoeddent, os na ddanfonwyd hwynt? Fel yr ysgrifenwyd, “Mor brydferth yw traed y rhai yn efengylu pethau da!”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A pha fodd y cyhoeddant onis danfonir? Fel yr ysgrifennwyd: Brydferthed traed efengylwyr pethau da.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu pethau daionus!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A phwy sy'n mynd i ddweud wrthyn nhw heb gael ei anfon? Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei olygu wrth ddweud: “Mae mor wych fod y rhai sy'n cyhoeddi'r newyddion da yn dod!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud: "Mor weddaidd yw traed y rhai sy'n cyhoeddi newyddion da."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a pha fodd y pregethant onis danfonir hwynt? megys y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu pethau da!