Romans 10:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr gofyn ydd wyf, Any chlywsant vvy? Diau vynet o y son hwy dros yr oll ddaiar, a’ ei gairiae y d ffiniae y byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr dywedyd yr wyf, Oni chlywsant hwy? Do, yn wir, “I’r holl ddaear yr aeth eu swn allan; Ac i holl derfynau’r byd, eu geiriau hwynt.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond efallai, meddaf, na chlywsant? Yn wir, do, i’r holl ddaear yr aeth eu sŵn allan, ac i derfynau’r byd eu geiriau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Yn ddiau i'r holl ddaear yr aeth eu sŵn hwy, a'u geiriau hyd derfynau y byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ai dweud ydw i fod yr Iddewon heb glywed? Na, fel arall yn hollol: “Mae pawb wedi clywed beth maen nhw'n ddweud, a'u neges wedi mynd i ben draw'r byd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae'n rhaid gofyn, "A oedd dichon iddynt fethu clywed?" Nac oedd, yn wir, oherwydd: "Aeth eu lleferydd allan i'r holl ddaear, a'u geiriau hyd eithafoedd byd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Do, yn wir, Eu swn a aeth allan i'r holl ddaear, A'u geiriau hyd derfynau y byd.