Romans 10:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr gofyn yr wyf, Any d adnabu Israel Dduvv? Yn gyntaf y dywait Moysen, Mi baraf yw’ch wynfydu gan genetl ny d yvv genetl i mi, a’ chan genetl ampwyllic i’ch digiaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr dywedaf, Oni fu i Israel wybod? Y cyntaf, Mosheh a ddywaid, “Myfi a yrraf eiddigedd arnoch, trwy’r rhai nad ydynt genedl, Trwy genedl anneallus y digiaf chwi.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond efallai, meddaf, na wybu Israel? Yn gyntaf dywed Moses: Paraf i chwi eiddigeddu wrth un nad yw genedl, wrth genedl ddiddeall y paraf i chwi ddigio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr meddaf, Oni wybu Israel? Yn gyntaf, y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus y'ch digiaf chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, ai'r broblem ydy fod Israel heb ddeall y neges? Na! — Moses ydy'r cyntaf i roi ateb, “Bydda i'n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw'n genedl; a'ch gwneud yn ddig trwy fendithio pobl sy'n deall dim.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond i ofyn peth arall, "A oedd dichon i Israel fethu deall?" Ceir yr ateb yn gyntaf gan Moses: "Fe'ch gwnaf chwi'n eiddigeddus wrth genedl nad yw'n genedl, a'ch gwneud yn ddig wrth genedl ddiddeall."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr meddaf, Ai ni wybu Israel? Moses a ddywed yn gyntaf, Mi a'ch gwnaf yn eiddigus yn erbyn yr hyn nid yw genedl; yn erbyn cenedl anneallus mi a'ch gwnaf yn ddig.