Romans 10:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Esaias ’sy yn llyfasu, ac yn dywedyt, Im ca ffa d y gan yr ei ni’m ceisynt, ac i’m gwnethpwyt yn eglur ir ei nyd ymovynnent am danaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Eshaiah sydd hyderus iawn, ac a ddywaid, “Cafwyd Fi gan y rhai na cheisient Fi; Eglur y’m gwnaethpwyd i’r rhai nad ymofynent am Danaf.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac Eseias yn hy iawn a ddywed: Cafwyd fi ganddynt hwy na’m ceisient, gwnaed fi yn amlwg iddynt hwy nad ymofynnent â mi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau, ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac roedd y proffwyd Eseia ddigon dewr i gyhoeddi fod Duw yn dweud, “Daeth pobl oedd ddim yn chwilio amdana i o hyd i fi; Dangosais fy hun i rai oedd ddim yn gofyn amdana i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yna, y mae Eseia'n beiddio dweud: "Cafwyd fi gan rai nad oeddent yn fy ngheisio; gwelwyd fi gan rai nad oeddent yn holi amdanaf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y mae Esaia yn ymhyfhâu ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai na'm ceisient, A gwnaethum fy hun yn eglur i'r rhai nad ymofynant am danaf.