Romans 10:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Canys Moysē a ddospartha y cyfiawnder ysydd o’r Ddeðyf, val hyn Y dyn a wna y petheu hyn, a vydd byw wrthynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys Mosheh a ’sgrifenodd mai’r “dyn y sy’n gwneuthur y cyfiawnder y sydd o’r Gyfraith, a fydd byw trwyddo.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys ysgrifenna Moses am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, mai’r dyn a’i gwna a fydd byw trwyddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o'r ddeddf, Mai'r dyn a wnêl y pethau hynny, a fydd byw trwyddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddwedodd Moses am y Gyfraith fel ffordd o gael perthynas iawn gyda Duw: “Y sawl sy'n gwneud y pethau yma sy'n cael byw go iawn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ysgrifennodd Moses am y cyfiawnder trwy y Gyfraith: "Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y mae Moses yn ysgrifennu mai y dyn a wnel y cyfiawnder sydd o ddeddf a fydd byw trwyddo.