Romans 10:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any d pa dywait Y mae’r gair yn agos atat, sef yn dy eneu, ac yn dy galon. Hwn yw gair y ffydd yr hwn ydd ym ni yn y bregethur. Yr Epistol ar ddydd S. Andreas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr pa beth a ddywaid efe? Agos attat y mae’r gair, yn dy enau ac yn dy galon, hyny yw, gair ffydd yr hwn yr ydym yn ei bregethu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr beth a ddywed? Agos atat yw’r gair, yn dy enau ac yn dy galon; hynny yw, y gair am ffydd a gyhoeddwn ni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae'r gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'n ei ddweud: “Mae'r neges yn agos atat ti; mae ar dy wefusau ac yn dy galon di.” (Hynny ydy, y neges dŷn ni'n ei chyhoeddi, sef mai credu ydy'r ffordd):
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond beth mae'n ei ddweud? "Y mae'r gair yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon." A dyma'r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na, pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae y gair yn agos attat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu;