Romans 11:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can a’s y gwrthddodiat wy vydd cysiliat y byt, pa vydd y add d derbyniat, any d bywyt o veirw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac achub o honof rai o honynt: canys os eu bwrw hwynt ymaith yw cymmod y byd, pa beth fydd eu derbyniad ond bywyd o feirw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os bu eu gwrthod hwynt yn gymod byd, beth fydd eu derbyn onid bywyd oddi wrth y meirw?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymod i'r byd, beth fydd eu derbyniad hwy ond bywyd o feirw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy eu taflu nhw i ffwrdd wedi golygu fod pobl o weddill y byd yn dod i berthynas iawn â Duw, beth fydd canlyniad eu derbyn nhw yn ôl? Bydd fel petai'r meirw'n dod yn ôl yn fyw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd os bu eu bwrw hwy allan yn gymod i'r byd, bydd eu derbyn i mewn, yn sicr, yn fywyd o blith y meirw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os yr ymwrthodiad â hwy yw cymmod y byd, beth fydd eu derbyniad ond bywyd o feirw?