Romans 11:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chyd bod ’rei or ceingae wedy eu tori ymaith, a’ thi theu yn olewwydden ’wyllt, wedy dy h impio arnynt yn y lle hwy, ath wneuthur yn gyfrannoc o’r gwreiðyn, ac o vraster yr Olewydden,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi, yn olew-wydden wyllt, a impiwyd i mewn yn eu plith, ac yn gydgyfrannog â hwynt o wreiddyn brasder yr olew-wydden y’th wnaethpwyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os torrwyd ymaith rai o’r canghennau, a’th impio di, olewydden wyllt, yn eu plith, a’th wneuthur yn gyfrannog o’r gwreiddyn, braster yr olewydden,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os rhai o'r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac a'th wnaethpwyd yn gyfrannog o'r gwreiddyn, ac o fraster yr olewydden;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae rhai o'r canghennau wedi cael eu llifio i ffwrdd, a thithau'n sbrigyn o olewydden wyllt wedi cael dy impio yn eu lle. Felly rwyt ti bellach yn cael rhannu'r maeth sy'n dod o wreiddiau'r olewydden.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os torrwyd rhai canghennau i ffwrdd, a'th impio di yn eu plith, er mai olewydden wyllt oeddit, ac os daethost felly i gael rhan o faeth gwreiddyn yr olewydden,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond os rhai o'r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi, yn olew‐wydden wyllt, a impiwyd i mewn yn eu plith, ac yn gyd‐gyfrannog o wreiddyn brasder yr olew‐wydden,