Romans 11:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny wrth dd odawdd Duw ei bopul y racadnabu ef yn y blaen. Any wyddoch pa ddywait yr Scrythur am Elias? pa vodd y mae ef yn erchy ar Dduw yn erbyn yr Israel, gan ddywedyt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ni fwriodd Duw ymaith Ei bobl, yr hon a rag-adnabu Efe. Oni wyddoch pa beth ym matter Elias, a ddywaid yr Ysgrythyr, y modd yr erfyn efe ar Dduw yn erbyn Israel,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni wrthododd Duw ei bobl a ragadnabu. Oni wyddoch beth a ddywed yr ysgrythur yn “Elïas,” pa fodd yr achwyn ef wrth Dduw ar Israel:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn a adnabu efe o'r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae'r ysgrythur yn ei ddywedyd am Eleias? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dydy Duw ddim wedi troi ei gefn ar y bobl oedd wedi eu dewis o'r dechrau. Ydych chi'n cofio beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud? Roedd Elias yn cwyno am bobl Israel, ac yn dweud fel hyn:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw Duw wedi gwrthod ei bobl, y bobl a adnabu cyn eu bod. Gwyddoch beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud wrth adrodd hanes Elias yn galw ar Dduw yn erbyn Israel:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni fwriodd Duw ymaith bobl y rhai a rag‐adnabu efe. Oni wyddoch pa beth a ddywed yr Ysgrythyr yn yr adran am Elias, y modd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd,