Romans 11:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Da: trwy ancrediniaeth y tored wy ymaith, a’ thi the ’sy yn sefyll gan y ffyð: na vydd vchelvryd, an d ofna.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Da. Trwy eu hanghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith; a thydi, trwy dy ffydd yr wyt yn sefyll.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Purion! O achos anghrediniaeth y torrwyd hwy ymaith, ac o achos ffydd y sefi dithau. Na fydd uchelfryd, eithr ofna.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Da; trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, a thithau sydd yn sefyll trwy ffydd. Na fydd uchelfryd, eithr ofna.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Digon gwir: Cawson nhw eu llifio i ffwrdd am beidio credu, a chest ti dy osod yn eu lle dim ond am dy fod di wedi credu. Ond paid dechrau swancio; gwylia di!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eithaf gwir; fe'u torrwyd hwy o achos anghrediniaeth, ac fe gefaist ti dy le trwy ffydd. Rho'r gorau i feddyliau mawreddog, a meithrin ofn Duw yn eu lle.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Rhagorol! Trwy eu hannghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, a thithau wyt yn sefyll trwy dy ffydd! Na fydd uchel‐fryd, eithr ofna;