Romans 11:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwyl am hyny vwyn eidd dra, a’ thostedd Duw: ir ei a gwympesont, dostedd: an d y ti, vwyn‐ eidd dra, a’s aro s y yn ei vwyneidddra: a’s amgen, ith torir di the hefyt ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwel, gan hyny, ddaioni a thoster Duw; tua’r rhai a gwympasant, doster; ond tuag attat ti, ddaioni Duw, os parhai yn Ei ddaioni; onite, tithau hefyd a dorrir ymaith;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwêl gan hynny diriondeb a llymder Duw: atynt hwy a gwympodd, llymder; ond atat ti, tiriondeb Duw, os glyni wrth ei diriondeb; onid e, torrir dithau ymaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwêl am hynny ddaioni a thoster Duw: sef i'r rhai a gwympasant, toster; eithr daioni i ti, os arhosi yn ei ddaioni ef: os amgen, torrir dithau hefyd ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sylwa fod Duw yn gallu bod yn garedig ac yn llym. Mae'n llym gyda'r rhai sy'n anufudd, ond yn garedig atat ti — dim ond i ti ddal ati i drystio yn ei garedigrwydd. Neu, fel arall, cei dithau hefyd dy lifio i ffwrdd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, ystyria'r modd y mae Duw yn dangos ei diriondeb a'i erwinder: ei erwinder i'r rhai a gwympodd i fai, ond ei diriondeb i ti, cyhyd ag y cedwi dy hun o fewn cylch ei diriondeb. Os na wnei, cei dithau dy dorri allan o'r cyff.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwel gan hynny garedigrwydd a llymder Duw: tuag at y rhai a gwympasant, llymder; tuag attat ti, caredigrwydd Duw, os arhosi yn ei garedigrwydd: os amgen, torrir dithau hefyd ymaith.