Romans 11:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys a’s tored tu di allan o’r olew wydden ’rhon oedd wyllt wrth anian, ath h impio yn erbyn anian yn‐gwir olew‐wydden, pa gymeint mwy y caif yr ei ’sy erwydd anian, ei h impio yn y olewwydden y hunain?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys os tydi a dorrwyd allan o’r olew-wydden wyllt wrth naturiaeth, ac yn erbyn naturiaeth y’th impiwyd i mewn i olew-wydden dda, pa faint mwy y bydd i’r rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holew-wydden eu hun?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly os torrwyd di ymaith o’r olewydden wyllt wrth naturiaeth, a’th impio yn erbyn naturiaeth mewn olewydden dda, pa faint mwy yr impir y canghennau naturiol hyn yn eu holewydden eu hunain?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os tydi a dorrwyd ymaith o'r olewydden yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth, a'th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olewydden; pa faint mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holewydden eu hun?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os gwnaeth dy dorri di i ffwrdd oddi ar olewydden wyllt a'th impio yn groes i natur ar olewydden gardd, mae'n ddigon hawdd iddo impio'r canghennau naturiol yn ôl i'w holewydden eu hunain!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd, os cefaist ti dy dorri o olewydden oedd yn wyllt wrth natur, a'th impio i mewn, yn groes i natur, i olewydden gardd, gymaint tebycach yw y cnt hwy, sydd wrth natur yn ganghennau olewydden gardd, eu himpio i mewn i'w holewydden hwy eu hunain!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os torrwyd di ymaith o'r olew‐wydden wyllt wrth naturiaeth, a'th impio yn erbyn naturiaeth mewn olew‐wydden dda, pa faint mwy y bydd i'r rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holew‐wydden eu hun?