Romans 11:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can na ewyllyswn, vrodur, y chwi anwybot y dirgelwch hyn (rac eich bot yn rry ddoethion ynoch ych h unain) am o ran ddyvot yr anhydynder i’r Israel, y’n y ddel cyflawnder y Cenetloedd y mewn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn, rhag i chwi fod yn ddoethion yn eich meddwl eich hun, fod calediad o ran wedi digwydd i Israel nes i gyflawnder y cenhedloedd ddyfod i mewn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn (rhag i chwi fod yn gall yn eich tyb eich hunain), mai o ran y daeth caledwch ar Israel, hyd oni ddelo cyflawnder y cenhedloedd i mewn,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid ewyllysiwn, frodyr, eich bod heb wybod y dirgelwch hwn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun,) ddyfod dallineb o ran i Israel, hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod dirgelwch yma, rhag i chi fod yn rhy llawn ohonoch chi'ch hunain. Mae rhai o'r Iddewon wedi troi'n ystyfnig, a byddan nhw'n aros felly hyd nes y bydd y nifer cyflawn ohonoch chi sy'n perthyn i genhedloedd eraill wedi dod i mewn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, am y dirgelwch hwn (bydd hynny'n eich cadw rhag bod yn ddoeth yn eich tyb eich hunain), fod caledwch rhannol wedi syrthio ar Israel, hyd nes y daw'r Cenhedloedd i mewn yn eu cyflawn rif.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn, fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hunain: ddyfod caledwch o ran i Israel, hyd oni ddel cyflawnder y Cenhedloedd i mewn;