Romans 11:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly yr iacheir yr oll Israel, mal y mae yn scrivennedic, Y gwaredwr a ddaw allan o Tsion, ac a dd ymchwel ymaith yr anwiredd y wrth Iaco.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac felly holl Israel fydd gadwedig, fel yr ysgrifenwyd, “Daw allan o Tsion y Gwaredwr, Try ymaith annuwioldeb oddiwrth Iacob;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac felly achubir holl Israel, fel yr ysgrifennwyd: Daw allan o Seion Un a wared, try ymaith bob annuwioldeb oddi wrth Jacob.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac felly holl Israel a fydd cadwedig; fel y mae yn ysgrifenedig, Y Gwaredwr a ddaw allan o Seion, ac a dry ymaith annuwioldeb oddi wrth Jacob.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna bydd Israel gyfan yn cael ei hachub, fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd Achubwr yn dod o Jerwsalem, ac yn symud annuwioldeb o Jacob.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddigwydd hynny, caiff Israel i gyd ei hachub. Fel y mae'n ysgrifenedig: "Daw'r Gwaredydd o Seion, a throi pob annuwioldeb oddi wrth Jacob;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac felly holl Israel a achubir, fel y mae yn ysgrifenedig, Daw allan o Sion y Gwaredydd, Ac a dry ymaith annuwioldebau o Jacob;