Romans 11:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thu ac at am yr Euangel y maent vvy yn ’elynion och pleit chwi: and erwydd yr etholedigeth, h wy gerir er mwyn y Tadeu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O ran yr efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi; ond o ran yr etholedigaeth, yn anwyl er mwyn y tadau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O ran yr efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi, ond o ran yr etholedigaeth, anwyliaid er mwyn y tadau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly o ran yr efengyl, gelynion ydynt o'ch plegid chwi: eithr o ran yr etholedigaeth, caredigion ydynt oblegid y tadau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar hyn o bryd mae llawer o'r Iddewon yn elynion y newyddion da, er eich mwyn chi. Ond cofiwch mai nhw oedd y bobl ddewisodd Duw, ac mae e'n eu caru nhw. Roedd wedi addo i'r tadau y byddai'n gwneud hynny! — i Abraham, Isaac a Jacob.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O safbwynt yr Efengyl, gelynion Duw ydynt, ond y mae hynny'n fantais i chwi. O safbwynt eu hethol gan Dduw, y maent yn annwyl ganddo, ond y maent felly o achos yr hynafiaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O berthynas, yn wir, i'r efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi, ond mewn perthynas â'r etholedigaeth, anwyliaid ydynt er mwyn y Tadau.