Romans 11:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Arglwydd, wy lladdasant dy Prophwyti, ac a gloðiesont ir llawr dy allorae: a’ mi a adwyt yn vnic, ac y maent yn ceisio vy einioes?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
sef “Arglwydd, Dy brophwydi a laddasant hwy; Dy allorau a gloddiasant hwy i lawr; ac myfi a adawyd yn unig; a cheisio fy einioes i y maent.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Arglwydd, lladdasant dy broffwydi, dymchwelasant dy allorau, a myfi yn unig a adawyd, a cheisiant fy mywyd innau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O Arglwydd, hwy a laddasant dy broffwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Arglwydd, maen nhw wedi lladd dy broffwydi di a dinistrio dy allorau. Fi ydy'r unig un sydd ar ôl, ac maen nhw'n ceisio fy lladd innau hefyd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Arglwydd, y maent wedi lladd dy broffwydi a bwrw d'allorau i lawr; myfi'n unig sydd ar l, ac y maent yn ceisio f'einioes innau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O Arglwydd, hwy a laddasant dy brophwydi, ac a gloddiasant i lawr dy allorau, ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau.