Romans 11:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys megis yr oedde‐chwi gynt eb gredw y Dduw, ac yr owrhon wedy cael trugarhau wrthych trwy y ancrediniaeth wy:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys fel y buoch chwi gynt yn anufudd i Dduw, ond yn awr y trugarhawyd wrthych trwy anufudd-dod y rhai hyn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys, megis yr anufuddhasoch chwi gynt i Dduw, ond yn awr a gawsoch drugaredd drwy anufudd-dod y rhai hyn,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys megis y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw, eithr yr awron a gawsoch drugaredd trwy anufudd‐dod y rhai hyn;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar un adeg roeddech chi, bobl o genhedloedd eraill, yn anufudd i Dduw. Ond am fod yr Iddewon wedi bod yn anufudd, dych chi nawr wedi derbyn trugaredd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Buoch chwi unwaith yn anufudd i Dduw, ond yn awr, o ganlyniad i'w hanufudd-dod hwy, yr ydych wedi cael trugaredd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys megys y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw, eithr yn awr a gawsoch drugaredd drwy anufudd‐dod y rhai hyn;