Romans 11:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Duw a gydgaeawdd bavvb oll yn ancrediniaeth, val y byddei ynddo drugarhau wrth pavvp oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys cyd-gauodd Duw bawb i anufudd-dod, fel wrth bawb y trugarhai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys cyd-gaeodd Duw bawb mewn anufudd-dod fel y trugarhâi wrth bawb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Duw a'u caeodd hwynt oll mewn anufudd‐dod, fel y trugarhâi wrth bawb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y gwir ydy, mae Duw wedi dal pawb yn garcharorion anufudd-dod, er mwyn iddo allu dangos trugaredd atyn nhw i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Duw wedi cloi pawb yng ngharchar anufudd-dod, er mwyn gwneud pawb yn wrthrychau ei drugaredd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys y mae Duw wedi cyd‐gau pawb i anufudd‐dod, fel y trugarhâi wrth bawb.