Romans 11:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O veint dyfnder golud, ac o ðoethinep a’ gwybyddiaeth Duw? mor anchwiliadwy yw y varneu ef, ai ffyrdd yn anveidrawl?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! Mor anchwiliadwy yw Ei farnau, ac anolrheiniadwy Ei ffyrdd!
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O ddyfnder golud, doethineb, a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy ei farnau ac anolrheinadwy ei ffyrdd!
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a'i ffyrdd, mor anolrheinadwy ydynt!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Duw mor ffantastig! Mae e mor aruthrol ddoeth! Mae'n deall popeth! Mae beth mae e'n ei benderfynu y tu hwnt i'n hamgyffred ni, a beth mae'n ei wneud y tu hwnt i'n deall ni!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O ddyfnder cyfoeth Duw, a'i ddoethineb a'i wybodaeth! Mor anchwiliadwy ei farnedigaethau, mor anolrheiniadwy ei ffyrdd!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef, a'i ffyrdd, mor anolrheiniadwy ydynt!