Romans 11:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pa ddywait atep Duw wrthaw? Gedewais y myhun saith mil gwyr, a’r ny phlygesōt y glinieu y ddelvv Baal.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr pa beth a ddywaid atteb Duw wrtho? “Gadewais i Mi Fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasgant lin i Baal.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr beth a ddywed yr ateb dwyfol iddo? Gadewais i mi fy hun saith mil o wŷr na phlygasant lin i Baal.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pa beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth oedd ateb Duw iddo? Dyma ddwedodd Duw: “Mae gen i saith mil o bobl eraill sydd heb fynd ar eu gliniau i addoli Baal.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr atebiad dwyfol iddo oedd: "Gadewais i mi fy hun saith mil o bobl sydd heb blygu glin i Baal."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pa beth a ddywed atteb Duw wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant lin i Baal.