Romans 11:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s o rat y mae, ny d yw ynte ddim o weithredoedd: a’s amgen, ny byddei ddim rat yn rat: ac a’s o weithredoedd ymae, nyd yw e mwy yn rat: a’s amgen ny byddei gweithred mwy yn weithret.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn ol etholedigaeth gras, y sydd; ac os trwy ras, nid yw mwyach o weithredoedd, canys pe amgen, gras nid yw mwyach yn ras.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond os trwy ras, nid o weithredoedd y mae mwyach; onid e, nid yw gras mwyach yn ras.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os o ras, nid o weithredoedd mwyach: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach. Ac os o weithredoedd, nid yw o ras mwyach: os amgen, nid yw gweithred yn weithred mwyach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac os mai dim ond haelioni Duw sy'n eu hachub nhw, dim beth maen nhw yn ei wneud sy'n cyfri bellach. Petai hynny'n cyfri fyddai Duw ddim yn hael!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os trwy ras y bu hyn, ni all fod yn tarddu o gadw gofynion cyfraith; petai felly, byddai gras yn peidio bod yn ras.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac os trwy ras, nid yw mwyach o weithredoedd: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach.