Romans 11:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Beth ynte? Ny chafas Israel yr hyn a geisiawdd: and yr etholedigeth ei cafas, a’r llaill a galedwyt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth, gan hyny? Yr hyn y mae Israel yn ei geisio, hyny ni chafodd efe; ond yr etholedigaeth a’i cafodd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beth gan hynny? Ni chafodd Israel y peth a gais, ond cafodd yr etholedigion ef,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth gan hynny? Ni chafodd Israel yr hyn y mae yn ei geisio: eithr yr etholedigaeth a'i cafodd, a'r lleill a galedwyd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma beth mae hyn yn ei olygu: Wnaeth pawb yn Israel ddim cael gafael yn beth roedden nhw'n ei geisio mor daer. Ond mae rhai wedi ei gael, sef y rhai mae Duw wedi eu dewis. Mae'r lleill wedi troi'n ystyfnig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mewn gair, y peth y mae Israel yn ei geisio, nid Israel a'i cafodd, ond y rhai a etholodd Duw; caledwyd y lleill,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa beth, ynte? Yr hyn y mae Israel yn ei daer‐geisio nis cafodd: eithr yr etholedigaeth a'i cafodd, a'r lleill a galedwyd,