Romans 11:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
megis y mae yn escrivenedic, Ro dd es Duw yddwynt yspryt trymgwsc: llygait val ny welent, a’ chlustieu val ny chlywent yd y dydd heddyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r lleill a galedwyd, fel yr ysgrifenwyd, “Rhoddes Duw iddynt yspryd trymgwsg, Llygaid fel na welent, A chlustiau fel na chlywent,”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chaledwyd y lleill, fel yr ysgrifennwyd: Rhoes Duw iddynt ysbryd trymgwsg, llygaid fel na welant, a chlustiau fel na chlywant, hyd y dydd hwn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Megis y mae yn ysgrifenedig, Rhoddes Duw iddynt ysbryd trymgwsg, llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent;) hyd y dydd heddiw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Gwnaeth Duw nhw'n swrth, a rhoi iddyn nhw lygaid sy'n methu gweld a chlustiau sydd ddim yn clywed — ac maen nhw'n dal felly heddiw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fel y mae'n ysgrifenedig: "Rhoddodd Duw iddynt ysbryd swrth, llygaid i beidio gweld, a chlustiau i beidio chlywed, hyd y dydd heddiw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
megys y mae yn ysgrifenedig, Rhoddes Duw iddynt yspryd cysgadrwydd; Llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent, hyd y dydd hwn.