Romans 12:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ATolwc ywch gan hyny, vrodur, er trugareðae Duw, roddy o hanoch eich cyrph yn aberth byw, sanct aidd, cymradwy y Dduw, yr hyn yvv eich dosparthus wasanaethu yðaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attolygaf i chwi, gan hyny, frodyr, trwy drugareddau Duw, roddi eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, boddhaol, i Dduw, yr hyn yw eich gwasanaeth rhesymmol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny, frodyr, erfyniaf arnoch trwy dosturiaethau Duw, gyflwyno eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, wrth fodd Duw, eich rhesymol addoliad chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw — un sy'n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny yr wyf yn eich annog chwi, frodyr, trwy dosturiaethau Duw, gyflwyno o honoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, llawn‐foddhâol, i Dduw: hyn yw eich gwasanaeth rhesymmol.