Romans 12:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
eb vod yn ddioc ar astudrwydd: yn vrwd ion yn yr Yspryt: gan wasanaethu yr Arglwydd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
mewn anrhydedd, yn blaenori eich gilydd; mewn diwydrwydd, nid yn ddiog; yn yr yspryd, yn wresog;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
mewn brwdfrydedd yn ddi-ildio; yn ferw eich ysbryd; yn gwasanaethu’r Arglwydd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid yn ddiog mewn diwydrwydd; yn wresog yn yr ysbryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch byth â gadael i'ch brwdfrydedd oeri, ond bod ar dân yn gweithio i'r Arglwydd yn nerth yr Ysbryd Glân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid yn llesg mewn eiddgarwch; yn wresog mewn yspryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd;