Romans 12:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na thelwch i nep ddrwc tros ddrwc: perwch betheu syber vv yn‐golwc pop dyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
I neb na thelwch ddrwg am ddrwg; darperwch bethau da yngolwg pob dyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau anrhydeddus gerbron pob dyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch byth talu'r pwyth yn ôl. Gadewch i bobl weld eich bod yn gwneud y peth anrhydeddus bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch thalu drwg am ddrwg i neb. Bydded eich amcanion yn anrhydeddus yng ngolwg pawb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Meddyliwch ym mlaenllaw am bethau anrhydeddus yng ngolwg pob dyn.