Romans 12:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac nachydymffurfwch a’r byd hwn, eithyr ymnewidiwch gan adnewyddiat eich meddwl, val y galloch brovi pa yw ewyllys da Duw, a’ chymradwy, a’ pherffeith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac na chyd-ymffurfiwch â’r byd hwn, eithr traws-ffurfier chwi trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y profoch beth yw daionus, a boddhaol, a pherffaith ewyllys Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac nac ymagweddwch yn ôl yr oes hon, eithr trawsffurfier chwi trwy adnewyddiad y meddwl, fel y profoch beth yw ewyllys Duw, y peth sy dda a boddhaol a chyflawn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na chydymffurfiwch â'r byd hwn: eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi'n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny'n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna'r peth iawn i'w wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A pheidiwch chydymffurfio 'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac na chydymagweddwch â'r byd hwn, eithr trawsffurfier chwi trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y gosodoch i brawf beth yw daioni, a llawn‐foddhâol a pherffaith ewyllys Duw.