Romans 12:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys dywedaf trwy y rat a roed y my, wrth bop vn ysydd ys ydd yn eich plith, na bo i neb ddyall uchlaw y dylir dyall, anid dyall o hanaw erwyðpwyllogrwydd, mal y rhanawð Duw y bop vn vesur ffyð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys dywedyd yr wyf, trwy’r gras a roddwyd i mi, wrth bob un y sydd yn eich plith beidio ag uchel-synied yn amgen nag y dylid synied, eithr synied mewn sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trwy’r gras a roddwyd i mi, dywedaf wrth bob un sydd yn eich plith, na osodo ei fryd ar ddim yn uwch nag y dylai, eithr rhoi ei fryd ar fod yn gymedrol, yn ôl y mesur o ffydd a rannodd Duw i bob un.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un a'r sydd yn eich plith, na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied; eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi, fel rhywun mae Duw wedi bod mor garedig ato: Peidiwch meddwl eich bod chi'n well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chi'ch hun wrth ystyried faint o ffydd mae Duw wedi ei roi i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd, yn rhinwedd y gras y mae Duw wedi ei roi i mi, yr wyf yn dweud wrth bob un yn eich plith am beidio 'i gyfrif ei hun yn well nag y dylid ei gyfrif, ond bod yn gyfrifol yn ei gyfrif, ac yn gyson 'r mesur o ffydd y mae Duw wedi ei roi i bob un.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys dywedyd yr wyf, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un sydd yn eich plith, na byddo iddo feddwl am dano ei hun yn uwch nag y dylai feddwl, ond i feddwl yn sobr, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.