Romans 12:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
velly ni neu er ein bot yn llawer yd ym vn corph yn‐Christ, a ’phop vn yn aylod y’w gilydd. Yr Epistol yr ail Sul gwedy ’r Ystwyll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
felly nyni yn llawer, un corph ydym yng Nghrist, a phob un yn aelodau i’n gilydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
felly nyni, sy’n llawer, un corff ydym yng Nghrist, ac aelodau bob un o’n gilydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly ninnau, a ni yn llawer, ydym un corff yng Nghrist, a phob un yn aelodau i'w gilydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn yr eglwys dŷn ni gyda'n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni'n rhan o'r corff ac mae arnon ni angen pawb arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
felly hefyd yr ydym ni, sy'n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i'w gilydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
felly nyni yn llawer, ydym un corph yng Nghrist, a phob un yn aelodau i'w gilydd.