Romans 12:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
nei a roddo cyngor, bot yn cygcori: rhwn a gyfranno, cyfranned yn sym p lrwyð: a lywodraetho, gvvnaed a diescaeluster: a drugarhao, gvvnaed gan hyfrydwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
neu’r hwn sy’n dysgu, i’r dysgad; neu’r hwn sy’n cynghori, i’r cynghoriad; neu’r hwn sy’n rhoddi, gwnaed yn haelionus; yr hwn sy’n llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sy’n trugarhau, mewn llawenydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a gyfranno, gwnaed yn unplyg; a lywyddo, yn frwdfrydig; a wnelo drugaredd, yn siriol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os wyt ti'n rhywun sy'n annog pobl eraill, bwrw iddi! Os wyt yn rhannu dy eiddo gydag eraill, bydd yn hael. Os oes gen ti'r ddawn i arwain, gwna hynny'n frwd. Os mai dangos caredigrwydd ydy dy ddawn di, gwna hynny'n llawen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os wyt yn rhannu ag eraill, gwna hynny gyda haelioni; os wyt yn arweinydd, gwna'r gwaith gydag ymroddiad; os wyt yn dangos tosturi, gwna hynny gyda llawenydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cynghor; neu yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed gyda haelionusrwydd; yr hwn sydd yn llywyddu, gydag eiddgarwch; yr hwn sydd yn trugarhau, gyda sirioldeb.