Romans 13:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyny can ystyried yr amser, ys y bot hi yr owrhon yn bryd y ddyffroi o gyscu: can ys yr awrhon y mae ein iechydw rieth yn nes, na phan gredesam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i chwi i ddeffroi o gwsg, canys yn awr nes yw ein hiachawdwriaeth ni na phan gredasom.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hyn hefyd, am eich bod yn gwybod yr amser, ei bod yn bryd i chwi ddeffroi o gwsg; canys yn awr y mae ein hiachawdwriaeth yn nes na phan gredasom.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu: canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylech chi fyw fel hyn am eich bod chi'n deall beth sy'n digwydd. Mae'n bryd i chi ddeffro o'ch difaterwch! Mae diwedd y stori, pan fyddwn ni'n cael ein hachub yn derfynol, yn agosach nag oedd pan wnaethon ni ddod i gredu gyntaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ie, gwnewch hyn oll fel rhai sy'n ymwybodol o'r amser, mai dyma'r awr ichwi i ddeffro o gwsg. Erbyn hyn, y mae ein hiachawdwriaeth yn nes atom nag oedd pan ddaethom i gredu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hyn: gan wybod yr amser ei bod eisoes yn bryd i chwi ddeffroi o gwsg; canys yr awrhon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom.