Romans 13:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y nos aeth heibio, a’r dydd a nessaodd: bwriwn ymaith gan hyny weithredoedd y tywyllw ch, a’ gwiscwn arveu y goleuni,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y nos a gerddodd ym mhell, a’r dydd a nesaodd; diosgwn, gan hyny, weithredoedd y tywyllwch, a rhoddwn am danom arfau y goleuni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Aeth y nos rhagddi ymhell ac y mae’r dydd yn agos. Diosgwn gan hynny weithredoedd y tywyllwch, ac ymwisgwn ag arfau’r goleuni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y nos a gerddodd ymhell, a'r dydd a nesaodd: am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau'r goleuni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r nos bron mynd heibio, a'r diwrnod newydd ar fin gwawrio. Felly gadewch i ni stopio ymddwyn fel petaen ni'n perthyn i'r tywyllwch, a pharatoi'n hunain i frwydro dros y goleuni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r nos ar ddod i ben, a'r dydd ar wawrio. Gadewch inni, felly, roi heibio weithredoedd y tywyllwch, a gwisgo arfau'r goleuni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y nos a gerddodd ym mhell, ac y mae y dydd wedi agoshau; am hynny bwriwn ymaith oddiwrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau y goleuni.