Romans 13:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
eithyr gwiscwch am danoch yr Arglwydd Iesu Christ, ac na vit eich gofal tros y cnawt, er mwyn porthi tra chwantae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr rhoddwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist; a rhag-ddarbod dros y cnawd, er ei chwantau ef, na wnewch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn hytrach ymwisgwch â’r Arglwydd Iesu Grist, ac na ragfeddyliwch am y cnawd, i foddio ei chwantau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gadewch i'r Arglwydd Iesu Grist fod fel gwisg amdanoch chi, a pheidiwch rhoi sylw i'ch chwantau hunanol drwy'r adeg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwisgwch yr Arglwydd Iesu Grist amdanoch; a pheidiwch rhoi eich bryd ar foddhau chwantau'r cnawd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr gwisgwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist, ac na wnewch rag‐ddarbod dros y cnawd, gyda golwg ar ei chwantau.