Romans 13:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly pwy pynac a wrthwynepa awdurtot, a wrthnepa ’ordin h at Duw: a’r ei a wrthnepant, a dd erbyniāt varnedigaeth yðynt y hunain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly yr hwn sy’n ymosod yn erbyn yr awdurdod, ordinhad Duw y mae efe yn ei gwrthsefyll; a’r rhai a wrthsafant a dderbyniant iddynt eu hunain farn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly y mae’r neb a’i gesyd ei hun yn erbyn yr awdurdod yn gwrthwynebu gosodiad Duw, a derbynia’r gwrthwynebwyr ddedfryd arnynt eu hunain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a'r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae rhywun sy'n gwrthwynebu'r awdurdodau yn gwrthwynebu rhywbeth mae Duw wedi ei ordeinio, a bydd pobl felly yn cael eu cosbi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, y mae'r sawl sy'n gwrthsefyll y fath awdurdod yn gwrthwynebu sefydliad sydd o Dduw. Ac y mae'r cyfryw yn sicr o dynnu barn arnynt eu hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O ganlyniad, yr hwn sydd yn ymrestru yn erbyn yr awdurdod, y mae yn gwrthsefyll ordinhad Duw; a'r rhai a wrthsafant a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain.