Romans 13:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can nad yw tywysogion yn ofn i weithredoedd da, any d ir ei drwc. Ac a vyny na d ofnych yr awdurtot? gwna dda yoni: a’ chai voliant ganto.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys y llywodraethwyr, nid ydynt ofn i’r weithred dda, ond i’r ddrwg. A ewyllysi di nad ofnech yr awdurdod? Gwna yr hyn sydd dda, a chai fawl ganddo, canys gweinidog Duw yw i ti er daioni;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys nid yw swyddogion yn achos ofn i’r weithred dda, ond i’r weithred ddrwg. Ond a ddymuni fod heb ofni’r awdurdod? Gwna’r peth sy dda, a chei glod ganddo;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i'r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna'r hyn sydd dda, a thi a gei glod ganddo:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does dim rhaid ofni'r awdurdodau os ydych yn gwneud daioni. Y rhai sy'n gwneud pethau drwg ddylai ofni. Felly gwna beth sy'n iawn a chei dy ganmol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r llywodraethwyr yn ddychryn, nid i'r sawl sy'n gwneud daioni ond i'r sawl sy'n gwneud drygioni. A wyt ti am fyw heb ofni'r awdurdod? Gwna ddaioni, a chei glod ganddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid yw y llywodraethwyr yn ddychryn i'r gwaith da ond i'r gwaith drwg. A ewyllysi di beidio ofni yr awdurdod? gwna y da, a thi a gei glod ganddo: