Romans 13:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys gwasanaethwr Duw ydyw er lles yty: an d a’s gwnai ddrwc, ofna: can na ddwc ef y cleddyf yn over: can ys gwasanaethwr Duw ydyw y ddial llid ar hwn a wnel drwc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond os yr hyn sydd ddrwg a wnei, ofna, canys nid yn ofer y cleddyf a wisg efe, canys gweinidog Duw yw, dialydd llid i’r hwn sy’n gwneuthur drwg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys gweinidog Duw ydyw i ti er daioni. Ond os y peth sy ddrwg a wnei, ofna, oblegid ni wisg ef y cleddyf yn ofer; canys gweinidog Duw ydyw, yn dial er digofaint ar y drwgweithredwyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd llid i'r hwn sydd yn gwneuthur drwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedi'r cwbl mae'r awdurdodau yn gwasanaethu Duw ac yn bodoli er dy les di. Ond os wyt ti'n gwneud drygioni, mae'n iawn i ti ofni, am fod y cleddyf sydd ganddo yn symbol fod ganddo hawl i dy gosbi di. Mae'n gwasanaethu Duw drwy gosbi'r rhai sy'n gwneud drwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd gwas Duw ydyw, yn gweini arnat ti er dy les. Ond os drygioni a wnei, dylit ofni, oherwydd nid i ddim y mae'n gwisgo'r cleddyf. Gwas Duw ydyw, ie, dialydd i ddwyn digofaint dwyfol ar ddrwgweithredwyr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys gweinidog Duw yw efe i ti er daioni; ond os gwnei y drwg, ofna, canys ni wisg efe y cleddyf yn ofer; oblegyd gweinidog Duw yw efe, a dialydd er llid i'r hwn sydd yn gwneuthur drwg.