Romans 13:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rowch y bawp gan hyny ei dyledion: teyrnget, ir neb y bo arnoch deyrnget, toll ir hwn y bo arnoch doll: ofn, ir hwn y mae iavvn bot ofn: parch ir hwn a ddyly barch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Telwch i bawb eu dyledion; i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus, deyrnged; i’r hwn y mae toll, doll; i’r hwn y mae ofn, ofn; i’r hwn y mae anrhydedd, anrhydedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Telwch i bawb eich dyledion, teyrnged i’r neb y mae arnoch deyrnged, treth i’r neb y mae arnoch dreth, ofn i’r neb y mae arnoch ofn, parch i’r neb y mae arnoch barch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Telwch gan hynny i bawb eu dyledion: teyrnged, i'r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; toll, i'r hwn y mae toll; ofn, i'r hwn y mae ofn; parch, i'r hwn y mae parch yn ddyledus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly talwch beth sy'n ddyledus i bob un — trethi a thollau. A dangoswch barch atyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Talwch i bob un ohonynt beth bynnag sy'n ddyledus, boed dreth, boed doll, boed barch, boed anrhydedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Telwch i bawb eu dyledion; teyrnged, i'r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; treth, i'r hwn y mae treth; ofn, i'r hwn y mae ofn; parch, i'r hwn y mae parch.