Romans 13:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys hyn, Na wna ’odinep, Na ladd, Na ledrata, Na dwc gamdestiolaeth, Na chupydda: ac a oes vn gorchymyn arall, ymae wedy’ gynwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, ys ef yn hwn, Car dy gymydawc mal tyun.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys hyn, “Ni odinebi, Ni leddi, Ni ladrattai, Ni thrachwanti,” ac os oes rhyw orchymyn arall, yn yr ymadrodd hwn y crynhoir, “Car dy gymmydog fel ti dy hun.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y gorchmynion hyn: Na odineba, na ladd, na ladrata, na thrachwanta, ac os oes unrhyw orchymyn arall, fe’u crynhoir yn un yn y gair hwn: Câr dy gymydog fel ti dy hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys hyn, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Na thrachwanta; ac od oes un gorchymyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r gorchmynion i gyd — “Paid godinebu,” “Paid llofruddio,” “Paid dwyn,” “Paid chwennych,” ac yn y blaen — yn cael eu crynhoi yn yr un rheol yma: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r gorchmynion, "Na odineba, na ladd, na ladrata, na chwennych", a phob gorchymyn arall, wedi eu crynhoi yn y gorchymyn hwn: "Cr dy gymydog fel ti dy hun."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys hyn: Na odineba, Na ladd, Na ladratta,, Na thrachwanta; ac os oes orchymyn arall, cynnwysir ef yn gryno yn y gair hwn, Câr dy gymmydog fel ti dy hun.