Romans 14:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phaam y berny di ar dy vrawt? neu paam y tremygy di dy vrawt? can ys ymddangoswn oll geyr bron brawdle Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond tydi, paham y berni dy frawd? Neu, tydi etto, paham y dirmygi dy frawd? Canys pawb o honom a osodir ger bron brawd-faingc Duw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr tydi, paham y berni dy frawd? Neu tithau, paham y dirmygi dy frawd? Bydd i bawb ohonom sefyll gerbron brawdle Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr paham yr wyt ti yn barnu dy frawd? neu paham yr wyt yn dirmygu dy frawd? canys gosodir ni oll gerbron gorseddfainc Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly pam rwyt ti mor barod i feirniadu dy gyd-Gristnogion ac edrych i lawr arnyn nhw? Cofia y bydd rhaid i bob un ohonon ni sefyll o flaen llys barn Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pam yr wyt ti yn barnu rhywun arall? A thithau, pam yr wyt yn bychanu rhywun arall? Oherwydd bydd rhaid inni bob un sefyll gerbron brawdle Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr tydi, paham y berni dy frawd? neu etto tydi, paham y dirmygi dy frawd? Canys gosodir ni oll gerbron brawdle Duw;