Romans 14:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr a’s dy vrawt a dristaa o bleit y bwyt, nyt wyt yr owhon yn rhodio erwydd cariat perffeith: na choll ef ath vwyt, yr hwn y bu varw Christ drosto
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys os o achos bwyd y mae dy frawd yn cael ei dristau, nid yn ol cariad yr wyt yn rhodio mwyach; na fydded i ti â’th fwyd ddistrywio hwnw tros yr hwn y bu Crist farw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os poenir dy frawd o achos bwyd, nid wyt mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddinistria â’th fwyd hwnnw y bu Crist farw drosto.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddistrywia ef â'th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly os wyt ti'n bwyta rhywbeth gan wybod ei fod yn broblem i Gristion arall, dwyt ti ddim yn dangos rhyw lawer o gariad. Paid gadael i dy arferion bwyta di wneud niwed i rywun arall wnaeth y Meseia farw drosto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac felly, os yw'r math o fwyd yr wyt ti'n ei fwyta yn achos gofid i arall, nid wyt ti mwyach yn ymddwyn yn l gofynion cariad. Paid dwyn i ddistryw, 'th fwyd, unrhyw un y bu Crist farw drosto.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os o achos bwyd y tristhêir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ol cariad. Na ddistrywia ef â'th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw.