Romans 14:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Vn a gred y gall ef vwyta pop peth: ac vn arall, rhwn ’sy wan ei ffydd, a vwyty lyseuae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Un sydd a chanddo ffydd i fwytta pob peth; ond y gwan, llysiau a fwytty.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Un, sy ganddo ffydd i fwyta popeth; arall, y gwan, llysiau a fwyty.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae un yn credu y gall fwyta pob peth; ac y mae arall, yr hwn sydd wan, yn bwyta dail.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er enghraifft, mae un person yn teimlo'n rhydd i fwyta unrhyw beth, ond mae rhywun arall yn ansicr ac yn dewis bwyta dim ond llysiau rhag ofn iddo fwyta rhywbeth na ddylai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gan ambell un ddigon o ffydd i fwyta pob peth, ond y mae un arall, gan fod ei ffydd mor wan, yn bwyta llysiau yn unig.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Un, yn wir, sydd ganddo ffydd i fwytta pob peth, ond yr hwn sydd yn wan, llysiau y mae yn fwytta.