Romans 14:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na ddinistr waith Duw er mwyn bwyt: diau yvv bot pop peth yn yn ’lan: eithyr drwc yvv ir dyn a vwyty drwy drancwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na fydded i ti o achos bwyd ddinystrio gwaith Duw. Pob peth sydd lân: eithr drwg yw i’r dyn sy’n bwytta trwy dramgwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na ddymchwel waith Duw er mwyn bwyd. Glân yw popeth, eithr drwg yw i’r dyn a fwyty er gwaethaf tramgwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O achos bwyd na ddinistria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân; eithr drwg yw i'r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch dinistrio gwaith da Duw er mwyn cael bwyta beth fynnwch chi. Mae pob bwyd yn iawn i'w fwyta, ond ddylech chi ddim bwyta rhywbeth os ydy e'n creu problemau i rywun arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch thynnu i lawr, o achos bwyd, yr hyn a wnaeth Duw. Y mae pob bwyd yn ln, ond y mae'n beth drwg i rywun fwyta a thrwy hynny beri cwymp i rywun arall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O achos bwyd na ddinystria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân, eithr drwg yw i'r dyn sydd yn bwytta trwy dramgwydd.