Romans 14:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A oes ffydd genyti? bid hi gyd a thi ty h un geyr bron Duw: gwyn y vyd yr vn ny’ s barn y hun an yn yr hyn y mae ef yn ymarddel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tydi, y ffydd y sydd genyt, bydd â hi gyda thi dy hun ger bron Duw. Dedwydd yw’ r hwn na farna ei hun yn yr hyn a gymmeradwya efe:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y ffydd sydd gennyt, bydded gennyt wrthyt dy hun gerbron Duw. Gwyn ei fyd y neb nis barno ei hun yn y peth a gymeradwya.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A oes ffydd gennyt ti? bydded hi gyda thi dy hun gerbron Duw. Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth bynnag rwyt yn ei gredu am hyn i gyd, cadwa hynny rhyngot ti a Duw. Mae bendith fawr i'r un sydd ddim yn ei gondemnio ei hun drwy fynnu gwneud beth mae e'n gredu sy'n iawn o hyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cadw dy ffydd, yn hyn o beth, rhyngot ti a Duw. Dedwydd yw'r sawl nad yw'n ei gollfarnu ei hun yn yr hyn y mae'n ei gymeradwyo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y ffydd yr hon sydd gennyt, ceidw i ti dy hun gerbron Duw. Dedwydd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei gymmeradwyo;